Mae yna ansicrwydd ynglŷn â chynnal yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhydaman am nad yw’r unig ddarpar faes yn ddigon gwastad.
Dywedodd Prif Weithredwr yr ŵyl, Elfed Roberts, y bydd rhaid symud yr Eisteddfod i ardal arall yn Sir Gaerfyrddin os nad oes safle addas cyn hir.
Roedd yr Eisteddfod wedi derbyn dau gais am safle Eisteddfod 2014, ond doedd un “ddim yn addas” a’r “llall ddim yn ddigon gwastad”.
Ond mae perchennog yr ail safle “wedi dweud wrth yr Eisteddfod y bydd yn gallu gwneud y tir yn fwy gwastad,” meddai wrth Golwg 360.
“Rydan ni wedi rhoi tri mis i’r perchennog ddangos i ni sut mae o’n bwriadu gwneud hyn – ac i ddangos ei gynlluniau,” meddai Elfed Roberts.
Yn y cyfamser, mae’r Eisteddfod “wedi cysylltu gyda Chyngor Sir Gâr” am y sefyllfa “i chwilio am dir y tu allan i ardal Rhydaman – yn hytrach na rhoi ein hwyau i gyd mewn un fasged,” meddai Elfed Roberts.
Os na fydd safle addas yn Rhydaman, fe fydd 2014 yn cael ei glustnodi ar gyfer rhywle arall yn Sir Gaerfyrddin.
Llandybie
“Mae un safle arall wedi cael ei awgrymu,” meddai, yn Llandybie, er nad yw’r Eisteddfod wedi llwyddo i gysylltu gyda’r perchennog ynglŷn â’r safle hwn eto.
Fe wnaeth Cyngor Tref Rhydaman a Chyngor Cymuned yr ardal gysylltu gyda’r Eisteddfod i ofyn iddyn nhw ystyried Rhydaman fel safle ar gyfer Eisteddfod 2014 “tua degawd” yn ôl “neu ddiwedd y 90au,” meddai Elfed Roberts.
Eisoes, mae Miriam Philips, Clerc Cyngor Tref Rhydaman wedi dweud wrth Golwg360 “fel grŵp Cyngor sydd wedi bod yn hynod awyddus i gynnal yr Eisteddfod yn yr ardal, byddai methu dod o hyd i safle addas yn beth trist i bawb”.
“Mae pobl yn meddwl ein bod ni’n ffysi, ond dydyn ni ddim. Bod yn ofalus ydan ni gyda materion iechyd a diogelwch a gydag arian,” meddai Elfed Roberts.