Mae pryder y gallai peilonau mawr gael eu gosod ar hyd Parc Cenedlaethol Eryri er mwyn cludo cyflenwad trydan ‘gwyrdd’ drwy’r ardal.

Yn ôl papur newydd y Western Mail mae hyn yn rhan o gynlluniau arfaethedig y Grid Cenedlaethol i drosglwyddo trydan o orsafoedd ynni adnewyddadwy, megis ffermydd gwynt newydd.

Yn ôl y papur, gallai hyn olygu fod peilonau 146 troedfedd o daldra yn croesi Eryri.

Mae’r Grid Cenedlaethol yn dweud fod ehangu’r cyflenwad trydan yn angenrheidiol yn sgil y gofyn cynyddol am ynni.

Ond mi fydd pryder ynglŷn ag effaith peilonau o’r fath ar bryd a gwedd tirwedd yr ardal.