Fe ddysgwyd gwers go iawn i Gymru heddiw, wrth i Seland Newydd, dan arweinyddiaeth wych Dan Carter, eu chwalu yn ail hanner y gêm yn Dunedin.
Fe gafodd Iwerddon eu curo 66-28 y penwythnos diwetha’, ond roedd pethau’n edrych yn well ar ôl hanner cynta’ lle’r oedd Cymru wedi llwyddo i ddal y Crysau Duon o fewn eu cyrraedd, 15-9.
Ond, fe ddaeth Carter a’r criw yn ôl yn yr ail hanner a sgorio 27 o bwyntiau.
Fe sgoriodd Carter ei hun ddau gais, ac fe ychwanegodd Richard Kahui un arall, wrth i amddiffynwyr Cymru wanio ac ildio dan bwysau gan Seland Newydd.
Pwyntiau Cymru
Stephen Jones oedd y cynta’ i sgorio dros Gymru, gyda chic gosb yn y pedwerydd munud.
Ar ôl chwarter awr, fe ddaeth penalti arall i Gymru, a Leigh Halfpenny yn sgorio trwy gicio o’i hanner ei hun. Doedd dim methu.
Ond, er bod Cymru wedi dechrau mor dda, Seland Newydd sgoriodd gais cynta’r gêm, trwy’r bachwr Keven Mealamu.
Record i Carter
Yr wythnos ddiwetha’, fe ddaeth Carter y chwaraewr cynta’ tros Seland Newydd i sgorio mwy na 1,000 o bwyntiau mewn gemau prawf. Fe sgoriodd ei ail gais yn erbyn Cymru heddiw yn y 67fed munud.
Yn y llun: Leigh Halfpenny, ciciwr y gêm