Mae Serbia wedi synnu’r Almaen gyda buddugoliaeth 1-0 yn eu herbyn yn Stadiwm Bae Nelson Mandela.

Sgoriodd Jovanovic unig gôl y gêm wedi 38 munud o’r chwarae i roi Serbia ar y blaen.

Ond fe ddaeth trobwynt y gêm funud ynghynt pan gafodd ymosodwr yr Almaen, Miraslav Klose ei anfon o’r maes yn dilyn ei ail garden felen o’r gêm.

Roedd y dyfarnwr o Sbaen, Alberto Undiano, wedi dangos sawl carden felen yn ystod yr hanner cyntaf ac roedd yn anochel byddai rhywun yn gweld y garden goch.

Fe allai’r Almaenwyr fod wedi unioni’r sgôr wedi awr o’r chwarae ar ôl ennill cic gosb wedi i amddiffynnwr Man Utd, Nemanja Vidic, lawio’r bêl yn y cwrt cosbi.

Ond fe arbedodd golwr Serbia, Vladimir Stojkovic gic gosb isel Lukas Podolski yn weddol hawdd i aros ar y blaen.

Dyma’r chwaraewr Almaeneg cyntaf i fethu cic o’r smotyn yn ystod gêm ers Uli Hoeness yn erbyn Gwlad Pwyl yn 1974.

Wrth i’r Almaen bwyso am gôl gwelwyd Serbia’n manteisio ar fylchau mawr yn eu hamddiffyn, ac fe allen nhw fod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth ar sawl achlysur.

Ond yn y pen draw roedd un gôl yn ddigon i Serbia, ac fe fyddwn nhw’n targedu buddugoliaeth yn erbyn Awstralia’r wythnos nesaf i sicrhau eu lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.