Mae gwleidydd yn Seland Newydd wedi cyhuddo swyddogion diogelwch Is-lywydd China o’i daro gydag ymbarél.

Dywedodd arweinydd plaid Werdd y wlad, Russel Norman, eu bod nhw wedi tynnu fflag Tibet o’i afael a’i wthio wrth iddo geisio protestio ar risiau senedd Seland Newydd

Roedd Is-lywydd China, Xi Jinping, ar ei ffordd i gyfarfod gyda swyddogion eraill yn y Senedd ar y pryd.

Dywedodd Russel Norman ei fod o wedi ei amgylchynu gan swyddogion diogelwch wrth iddo chwifio fflag Tibet a galw am ddemocratiaeth yno.

“Ges i fy mhwnio o’r ffordd gan y swyddogion diogelwch ac fe wnaethon nhw daro ymbarél dros fy mhen cyn iddyn nhw dynnu’r fflag oddi arna’i a sefyll arno,” meddai Russel Norman.

Roedd Xi Jinping yn Seland Newydd ar daith tri diwrnod er mwyn cynnal trafodaethau gyda llywodraeth Seland Newydd.

Mae llefarydd Senedd Seland Newydd, Lockwood Smith, wedi galw am ymchwiliad.

Xi Jinping yw’r ffefryn i olynu Arlywydd China Hu Jintao pan mae o’n rhoi gorau i’w swydd yn 2012.