Mae yna bryderon ynglŷn phrinder dŵr eleni wrth i Asiantaeth yr Amgylchedd gyhoeddi bod Cymru “cyn syched a ‘76”.

Y cyfnod o fis Ionawr i fis Mai eleni oedd y sychaf ers 34 mlynedd, meddai nhw, ac mae yna bryderon am lefelau afonydd yng Nghymru.

“Yr unig beth oedd yn wahanol yn 75 oedd bod y gaeaf a’r Hydref yn sych hefyd,” meddai Curig Jones ar ran Asiantaeth yr Amgylchedd wrth Golwg360.

“Mae lefelau dŵr yn dal i ostwng ar hyn o bryd.”

Eisoes mae Alun Attwood, Rheolwr Adnoddau Dŵr Asiantaeth Amgylchedd Cymru wedi dweud fod yr ychydig o law dechrau’r mis help ond fod lefelau dwr yn “disgyn eto”.

Does dim peryg y bydd pobol yn rhedeg allan o ddŵr eto, meddai Curig Jones, “ond mae’r diffyg dŵr mewn afonydd yn berygl i fywyd gwyllt”.

Dywedodd nad oedd eogiaid wedi dod i fyny’r afonydd eleni oherwydd bod “lefelau’r dŵr mor isel”.

‘Bob diferyn’

“Mae pob diferyn yr ydan ni’n ei yfed yn dod o’r amgylchedd ac mae perygl amlwg i fywyd gwyllt os yw’r lefelau’n mynd yn rhy isel,” meddai Curig Jones.

“Mae’n amlwg fod yna lot o wastraffu dŵr yn mynd ymlaen.”

Mae’r sefyllfa yn waeth yng Ngogledd Cymru nac yn y de, meddai.

Disgynnodd hanner y glaw oedd i’w ddisgwyl ym mis Mai. Ac mae rhai afonydd, fel Afon Dyfrdwy, yn cael ei ddefnyddio gan “tua 400 i 500” o fusnesau.

Fe fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael cyfarfod ddydd Llun i “drafod y camau nesaf” ac i edrych ar y data presennol.

“Efallai y bydd rhaid i ni gymryd camau eraill i reoli lefel y dŵr,” meddai.

Neges Asiantaeth Amgylchedd Cymru ar hyn o bryd ydi i ddefnyddio dŵr yr ydan ni ei angen yn unig ac i beidio â gwastraffu.