Mae Prif Weinidog Cymru wedi canslo gweddill ei amserlen prynhawn heddiw ar ôl mynd i Ysbyty Glan Clwyd yn ystod y bore yn dioddef o boenau yn ei fol, meddai llefarydd ar ei ran wrth Golwg 360.
Fe gafodd y Carwyn Jones brofion yn yr ysbyty a chyffuriau lleddfu poen cyn cael ei ryddhau.
“O ganlyniad, mae ei amserlen heddiw wedi’i ohirio’n anffodus. Ond, fe fydd gweddill ei amserlen dros y penwythnos yn mynd yn ei flaen fel arfer.”
‘Diolch’
Mae Carwyn Jones wedi datgan yr hoffai ddiolch i staff Ysbyty Glan Clwyd am y “gofal gwych” a dderbyniodd heddiw.
“Dyma ei ymweliad cyntaf â’r ysbyty ers dod yn Brif Weinidog Cymru. Mae’n edrych ymlaen at ei ymweliad nesaf – fydd gobeithio yn digwydd o dan amgylchiadau hollol wahanol!”
Roedd disgwyl i Carwyn Jones lansio fframwaith Ynys Ynni Sir Fôn yng Ngholeg Menai, Llangefni prynhawn heddiw.