Mae gweithwyr mewn maes awyr wedi dod o hyd i rhwng 40 a 60 pen dynol, ar ôl sylwi nad oedd y cargo wedi ei “labelu’n gywir”.
Daeth gweithwyr Southwest Airlines o hyd i’r pennau mewn bocsiau yr wythnos diwethaf yn Little Rock, Arkansas.
Fe wnaethon nhw roi gwybod i’r heddlu am y darganfyddiad a bellach mae’r pennau yng ngofal y crwner lleol.
“Roedden nhw i gyd mewn bocsiau plastig, oedd heb eu cau yn iawn.” Meddai crwner Sir Pulaksi. Garland Camper.
“Roedden nhw wedi eu cau gyda thap gludiog gyda’r nesaf peth i ddim gwybodaeth ynglŷn â beth oedd tu mewn.”
Dangosodd ymchwil pellach bod y pennau ar eu ffordd i gwmni Medtronic Inc yn Fort Worth, Texas.
Roedd niwrowyddonwyr yn eu defnyddio er mwyn astudio sut i gynnal llawdriniaeth ar glustiau, trwynau a gyddfau.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod nhw wedi archebu pedwar pen a 40 darn o ben gyda’r glust ynghlwm.
“Yn yr achos yma roedden nhw’n mynd i gael eu defnyddio ar gyfer hyfforddiant,” meddai.
Dywedodd ei bod hi’n “arferol” i gludo’r pennau ar awyrennau masnachol.