Mae’r olew sy’n gollwng i mewn i’r Gwlff yn llawn nwy naturiol sy’n bygwth ecosystem fregus yr ardal, rhybuddiodd arbenigwyr heddiw.

Mae tua 40% o’r olew sy’n gollwng yn fethan, o’i gymharu gyda thua 5% mewn olew fel arfer, yn ôl yr cefnforegydd John Kessler.

Fe allai hynny olygu bod symiau anferth o fethan wedi gollwng i’r Gwlff, fydd yn mogi anifeiliaid a chreu “parthau marw” ble nad oes digon o ocsigen i fywyd oroesi.

“Dyma’r ffrwydrad mwyaf o fethan yn hanes modern y ddynoliaeth,” meddai John Kessler.
Mae methan yn sylwedd di-liw a fflamadwy sy’n rhan fawr o nwy naturiol.

Mae cwmnïau olew fel arfer yn llosgi’r nwy sy’n rhaid o olew crai cyn ei yrru i’r burfa olew.

Mae’r gwyddonwyr yn dal i geisio mesur faint o fethan sydd wedi dianc i mewn i’r dŵr a sut y bydd hynny’n effeithio ar y Gwlff a’i greaduriaid.

Mae’n bosib mae methan oedd yn gyfrifol am achosi’r ffrwydrad suddodd platfform olew Deepwater Horizon ym mis Ebrill a dechrau’r trychineb yn y lle cyntaf.

Wfftiodd llefarydd ar ran BP yr awgrym bod dyfroedd y Gwlff yn cynnwys llawer iawn o fethan.

“Mae’r nwy yn dianc, ac mae unrhyw beth nad ydan ni’n ei losgi yn dianc i’r wyneb ac yn diflannu,” meddai.