Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi galw ar Brif Weinidog Prydain i ganiatau i filwyr ddod adre’ o Affganistan.
Yn ystod sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog yn Llundain heddiw, fe ofynnodd Elfyn Llwyd i David Cameron ai dyma’r amser goau I dynnu allan o ryfel costus sy’n amhosib ei ennill.
Fe wnaeth ei sylwadau wythnos cyn cyhoeddi’r gyllideb frys, pryd mae disgwyl cyhoeddi toriadau mawr yng nghyllidebau gwahanol adrannau’r llywodraeth yn San Steffan – gan gynnwys y Weinyddiaeth Amddiffyn.
Y gost yn cynyddu
“Mae’r ymgyrch filwrol yn Affganistan rhwng 2008 a 2009 wedi costio dros £2.623bn i’r trethdalwyr,” meddai Elfyn Llwyd. “Maen hynny’n gyfystyr â £7.2m y dydd; £300,000 yr awr… cost sy’n dal i gynyddu.
“Ond nid rhesymau ariannol ydi’r prif rai dros adael Affganistan. Bob wythnos, dw i’n clywed y newyddion trist am y rhai hynny sydd wedi cael eu lladd. Mae’n amser dod a’r milwyr adre’.
“Rydan ni’n wynebu un o’r ymgyrchoedd milwrol hira’ yn ystod y can mlynedd diwetha’. Mae’r lluoedd presennol yn cael eu gor-ymestyn gyda llai o adnoddau.
“Mae nifer y milwyr a phobol gyffredin sy’n marw yn parhau i gynyddu, ac mae’r lefelau trais yn uwch nag y maen nhw wedi bod ers 2001.”
Amserlen glir
Mae Elfyn Llwyd yn credu bod angen i’r Prif Weinidog gyhoeddi strategaeth ac amserlen glir ar gyfer gadael Affganistan.
“Dw i’n annog David Cameron i roi o’r neilltu styfnigrwydd y llywodraeth flaenorol dros Affganistan, a chydnabod y ffeithiau, parchu barn y cyhoedd a gorchymyn i filwyr Prydeinig i adael y wlad,” meddai.