Mae arweinydd cerddorol amlwg o Eifionydd am weld maes yn ei hardal hi yn ennill y ras i fod yn gartre’ i Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.

Dyw Pat Jones, arweinydd corau a phartïon aelwyd Chwilog, sy’n cefnogi gwyliau ac eisteddfodau yn y gogledd a’r de, ddim am weld yr un peth yn digwydd â phan benderfynwyd mynd ag Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005 i gaeau’r Faenol ger Bangor.

Mae golwg360 wedi cael cadarnhad bod yr Urdd wedi llunio rhestr fer o bedwar safle ar gyfer cynnal eisteddfod Eryri ymhen dwy flynedd, ac wrthi ar hyn o bryd yn trio penderfynu lle’n union i fynd.

Y safleoedd yw’r Faenol ger Bangor; parc Glynllifon ger Caernarfon; caeau Sioe Caernarfon ar Ffordd Bethel yn nhre’r Cofis; a fferm Afon Wen ger Chwilog.

Adlais o 2005

“Dw i’n credu y byddai’r farn leol yr un fath â phan oedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Eryri y tro diwetha’ yn 2005,” meddai Pat Jones, gan gyfeirio at gryfder y teimladau pan ddewisodd y brifwyl fawr fynd i’r Faenol.

“Fe fyddai’n fwy siomedig petai’r eisteddfod yn mynd i’r Faenol eto… mae popeth nawr yn mynd i’r Faenol.

“Mae’n biti na fuasai’n dod i Eifionydd,” meddai Pat Jones wedyn. “Dyw Eifionydd ddim yn cael dim – dydyn ni heb gael dim yn y pen hyn ers tua 1987.”

Mae pwyllgorau codi arian yn Llyn ac Eifionydd eisoes yn trafod safle’r wyl wrth benderfynu a ydi faint o arian mae’r Urdd yn disgwyl iddyn nhw ei hel trwy weithgareddau gwirfoddol, yn deg, yn enwedig o feddwl pa mor bell ydi tri o’r safleoedd oddi wrthyn nhw.

Y rhestr hir

Mae golwg360 yn deall bod y rhestr hir o naw safle posib ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 yn cynnwys safle arall Penyberth ym Mhenrhos ger Pwllheli, lle cynhaliwyd prifwyl lwyddiannus ddiwedd y 1990au.

Un safle arall oedd wedi ei gynnig ar y rhestr hir oedd Maes Caernarfon.

Ymateb yr Urdd

“Fel sy’n arferol, gwahoddwyd ceisiadau gan ardaloedd a thirfeddianwyr oedd am roi cartref i Eisteddfod 2010 yn Eryri, a lluniwyd rhestr fer o bedwar safle gan y Pwyllgor Maes,” meddai datganiad gan yr Urdd mewn ymateb i ymholiad golwg360.

“Ar y rhestr fer mae Afon Wen, Pwllheli; caeau ar Ffordd Bethel ar gyrion Caernarfon; Glynllifon, a’r Faenol.”