Mae’r gwrthdaro ethnig yn parhau yn Kyrgyzstan, ac mae adroddiadau bod dros 100,000 o ffoaduriaid wedi dianc o’r wlad erbyn hyn.
Mae’r ffoaduriaid wedi mynd dros y ffin i Uzbekistan, ac yn ôl yr adroddiadau, mae miloedd yn rhagor yn aros i groesi.
Yn swyddogol, mae 189 o bobol wedi marw ers dechrau’r gwrthdaro rhwng y Kyrgiaid a’r Uzbekiaid.
Ond mae awgrymiadau nad yw pob un sy’n marw ddim yn cael eu cyfri, gan fod pobol yn cael eu claddu’n gyflym yn unol ag arfer Mwslimaidd.
Yn ôl yr adroddiadau, y Kyrgiaid sydd, fwy na’ heb, wedi bod yn ymosod ar yr Uzbekiaid (yr elfen leiafrifol yn y wlad) gan losgi eu tai a’u busnesau yn ogystal.
Ymosod ar weithwyr dyngarol
Yn ôl adroddiadau, mae cymorth dyngarol yn cael ei anfon i’r ffoaduriaid ac i ardal yr ymladd.
Ond mae pryder ynglŷn â darparu’r deunydd, yn dilyn honiadau bod pobol wedi ymosod ar wirfoddolwyr yn ogystal â’u bygwth.
Tyndra
Mae adroddiadau mai criw o ddynion arfog sy’n gyfrifol am ddechrau’r ymladd, ar ôl iddyn nhw ymosod ar y ddwy gymuned yn ninas Osh er mwyn egino hen dyndra.
Credir efallai taw cefnogwyr y cyn arlywydd, Kurmanbek Bakiyev – a gafodd ei orfodi o rym mewn diwygiad gwaedlyd ym mis Ebrill – neu hyd yn oed ef eu hunan, sy’n gyfrifol am hyn.
Bwrw ymlaen
Mae llywodraeth dros dro Kyrgyzstan wedi cael eu hannog gan arweinwyr byd i fwrw ymlaen i gynnal refferendwm ar 27 Mehefin, ar gyfer cyfansoddiad newydd i’r wlad; ac i gynnal etholiadau seneddol ym mis Hydref, er gwaetha’r trais.