Mae’r Gleision wedi cadarnhau bod yr wythwr, Xavier Rush, yn mynd i aros gyda’r rhanbarth yn hytrach na ymuno gydag Ulster.
Roedd cyn chwaraewr Seland Newydd wedi bwriadu ymuno gyda’r Gwyddelod ar gyfer tymor 2010/11, ond oherwydd newidiadau yn ei amgylchiadau, fe fydd Rush yn parhau gyda’i yrfa chwarae ym mhrifddinas Cymru.
“Mae Ulster yn dîm gwych gyda dyfodol disglair. Roedden nhw wedi creu argraff arnaf pan ymwelais â hwy ac rwy’n dymuno’n dda iddynt ar gyfer tymor nesaf,” meddai Rush.
“Er hynny, mae newidiadau yn fy amgylchiadau personol wedi gwneud i mi benderfynu aros gyda’r Gleision, lle rwy’ i’n hapus iawn.
“Fe hoffwn ni ddiolch i bawb am eu hamynedd a’u dealltwriaeth ac rwyf nawr am ganolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer y tymor newydd.”
“Wrth eu boddau”
Mae Prif Weithredwr y Gleision, Robert Norster, yn dweud bod y rhanbarth wrth eu boddau gyda’r newyddion bod Xavier Rush wedi penderfynu aros.
“Mae Xavier wedi chwarae rhan allweddol yn ein cynnydd ers iddo ymuno yn 2005,” meddai.
“R’yn ni i gyd yn falch iawn ei fod wedi arwyddo gyda’r Gleision eto a phenderfynu parhau â’i yrfa yma wrth i ni adeiladu ar lwyddiant y tymor diwetha’.”