Mae Chile wedi ennill eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd ers 1962 gyda buddugoliaeth 1-0 yn erbyn Honduras yn Nelspruit.

Roedd hyfforddwr Chile, Marcelo Bielsa wedi addo chwarae ymosodol gan ei dîm – a dyna’n union welodd y dorf yn Stadiwm Mbombela.

Chile oedd yn creu’r cyfloed cynnar gyda Matias Fernandez yn mynd yn agos gyda chic rydd wedi dwy funud.

Fe ddaeth Arturo Vidal a Jorge Valdivia hefyd yn agos i sgorio dros Chile, gydag ymdrechion ar gôl Honduras.

Unig gôl

Fe sgoriodd Jean Beausejour unig gôl y gêm o groesiad Mauricio Isla wedi 34 munud o’r chwarae i roi mantais haeddiannol i Chile.

Er gwaethaf bod ar eu hôl, doedd Honduras yn methu creu llawer o gyfleoedd i unioni’r sgôr wrth i Chile barhau i reoli’r chwarae.

Seren

Fe allai seren y gêm, Alexis Sanchez fod wedi sgorio ail gôl i Chile wedi awr o’r chwarae cyn i arbediad gwych gan olwr Honduras, Neol Valladares atal Waldo Ponce rhag sgorio.

Ond gyda Chile yn rheoli’r meddiant, methodd Honduras rhoi llawer o bwysau ar eu gwrthwynebwyr, wrth i dîm Marcelo Bielsa sicrhau buddugoliaeth allweddol yn eu gêm gynta’ yn y gystadleuaeth.

Yn y llun: Chile yn dathlu