Mae dwsinau o bobol wedi cael eu harestio, a nifer wedi eu hanafu, yn dilyn protest yn erbyn amharu ar fynwentydd yn Tel Aviv.
Yn ôl adroddiadau, roedd miloedd o Iddewon Uniongred wedi ymgynnull yn ardal Jaffa yn y ddinas.
Maen nhw’n ymgyrchu yn erbyn codi gwesty yno, gan honni y byddai’r gwaith adeiladu yn amharu ar feddau Iddewig.
Roedd yr heddlu wedi ceisio gwasgaru’r dorf, ond dechreuodd pobol daflu cerrig a photeli atyn nhw.
Dioddefodd pump heddwas a 10 o brotestwyr fân anafiadau.