Fe fydd golwr Manchester United, Tom Heaton, yn ymuno gyda Chaerdydd y mis nesa’ pan fydd ei gytundeb yn Old Trafford yn dod i ben.

Dyma fydd yr ail dro i Heaton chwarae i’r Adar Gleision ar ôl iddo dreulio tymor 2008/9 ar fenthyg gyda chlwb prifddinas Cymru.

Fe chwaraeodd 21 gêm i Gaerdydd yn ystod y tymor hwnnw, cyn chwarae ar fenthyg gyda Rochdale a Wycombe Wanderers y tymor diwetha’.

Balch

“Rwy’n falch ein bod ni wedi arwyddo Tom wrth Man Utd,” meddai rheolwr Caerdydd, Dave Jones.

“R’yn ni’n ymwybodol o’i allu ers ei gyfnod ar fenthyg yma, ac r’yn ni wedi arwyddo chwaraewr ifanc talentog fydd yn gallu cynnig cystadleuaeth i Marshall yn y gôl.

“Roedd Man Utd wedi cynnig cytundeb newydd iddo, ond roedd Tom yn awyddus i chwarae’n gyson, sy’n dweud llawer amdano fel chwaraewr.

“Mae nawr yn fater i Tom a David gweithio’n galed i frwydro am le yn y tîm,” ychwanegodd Dave Jones.