Mae’r gorchymyn dirwyn clwb Caerdydd i ben wedi cael ei ollwng ar ôl i’r Adar Gleision dalu eu dyled £1.9m i Adran Gyllid a Thollau y llywodraeth.
Fe dalodd y clwb y ddyled yr wythnos ddiwetha’, yn dilyn buddsoddiad ariannol gan gonsortiwm o ddynion busnes o Malaysia.
Roedd Caerdydd yn ymddangos yn y llys am y pumed tro bryd hynny, ar ôl i’r achos gael ei ohirio er mwyn rhoi fwy o amser i’r clwb dalu.
Sefydlogrwydd
Gyda’r dynion busnes, Dato Chan a Vincent Tan, yn arwain buddsoddiad o tua £6m i’r clwb, mae pethau’n edrych ychydig yn fwy sefydlog ar Gaerdydd erbyn hyn.
Gan fod y ddyled wedi’i thalu yn llawn bellach, fe bydd unrhyw embargo ar drosglwyddo chwaraewyr yn cael ei godi nawr, ac fe fydd hawl gan Gaerdydd i ddechrau prynu chwaraewyr newydd.
“Yn amlwg mae’n newyddion da i’r clwb wrth i ni ddechrau adeiladu sylfaen cryf bydd y busnes a’r tîm yn gallu gweithredu’n iawn,” meddai Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Gethin Jenkins.
“Fe allwn ni nawr edrych ymlaen i’r tymor newydd a datblygu ein cynllun recriwtio.”