Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gwadu honiadau gan Aelod Cynulliad eu bod wedi defnyddio tactegau dadleuol wrth ymdrin â gwrthwynebwyr y cynllun i ddifa moch daear yn Sir Benfro.
Yr Aelod Cynulliad Peter Black sydd wedi bod yn gwneud yr honiadau ar ei flog, gan ddweud bod nifer o aelodau’r cyhoedd wedi cysylltu ag ef i gwyno.
Mae’r cwynion yn cynnwys honiadau fod y llu wedi bod yn dilyn pobol sy’n gwrthwynebu’r difa, yn ogystal â defnyddio’r Ddeddf Atal Terfysgaeth i’w hatal a’u holi.
Heddlu’n gwadu
Ond mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud wrth golwg360 bod yr adroddiadau yn “wallus” a’u bod “yn anffodus, wedi arwain at ddarlun camarweiniol o ymateb yr heddlu”.
“Dyw swyddogion ddim wedi defnyddio grymoedd o dan y Ddeddf Atal Terfysgaeth er mwyn gweithredu unrhyw rymoedd i chwilio” meddai Heddlu Dyfed-Powys wrth golwg360.
“Dyw swyddogion ddim wedi mynd allan mewn offer reiat, fel sydd wedi cael ei awgrymu.
“Mewn cysylltiad i’r Rhaglen Dileu’r Diciâu Mewn Gwartheg yng Nghymru, bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu gweithredu eu dyletswyddau cyfreithlon wrth barchu hawliau pobol i brotestio’n heddychlon mewn safleoedd lle mae’n ddiogel ac yn gyfreithlon i wneud hynny.”
Ysgrifennu at y Prif Gwnstabl
Ond mae Peter Black wedi dweud wrth golwg360 bod tactegau Heddlu Dyfed-Powys yn “annerbyniol”, ac yn dangos “elfen anferth o baranoia ar ran yr heddlu a’r llywodraeth”.
Mae’n bwriadu ysgrifennu at Brif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys ynglyn â’r mater, gan gyfeirio’n benodol at bresenoldeb yr heddlu mewn cyfarfod cyhoeddus yn Rhosygilwen, ger Aberteifi, oedd wedi cael ei drefnu gan wrthwynebwyr i’r difa.
Mae’n honni bod heddweision wedi mynd i’r cyfarfod hwnnw, a bod car â chamera ynddo wedi ei barcio yn wynebu’r fynedfa. Mae’r heddlu’n dweud fod y camera wedi’i ddiffodd.
Dim sylw
Pan gysylltodd golwg360 â Llywodraeth Cynulliad Cymru, fe ddywedodd llefarydd nad oedden nhw’n dymuno gwneud sylw ar y mater nac ar gynnwys blog Peter Black.
Mae’r Llywodraeth wedi dweud na fydd y rhaglen ddifa moch daear yn dechrau nes clywed canlyniad apêl yn erbyn y cynllun gan yr Ymddiriedolaeth Foch Daear. Mae’r apêl honno’n digwydd ddiwedd y mis.