Mae Israel yn mynd i lacio’n sylweddol y blocâd sydd wedi bod yn atal nwyddau rhag cyrraedd Gaza ers tair blynedd.

Daw’r penderfyniad bythefnos ar ôl i naw o bobol gael eu lladd gan filwyr y wlad, ar long oedd yn cario nwyddau dyngarol i’r Palestiniaid.

Mae’n debyg y bydd Cabinet Israel, mewn cydweithrediad â’r Cenhedloedd Unedig, yn cyfarfod heddiw i drafod rhestr fer o nwyddau fydd yn cael eu caniatáu.

Pwysau

Mae Llywodraeth Benjamin Netanyahu wedi bod o dan bwysau rhyngwladol, gan gynnwys o’r Unol Daleithiau, i lacio’r blocâd ers y marwolaethau.

Amcan y blocâd yw atal arfau rhag cael eu cludo i eithafwyr, ac i roi pwysau gwleidyddol ar Hamas.

Ond mae cwyno fod y blocâd yn achosi caledi mawr yn Gaza trwy rwystro nwyddau angenrheidiol rhag cyrraedd, a thrwy wasgu’r economi.

Tony Blair

Mae’r papur newydd Iddewig Haaretz wedi dyfynnu cyn Prif Weinidog Prydain, Tony Blair, yn croesawu’r datblygiad.

“Bydd yn gadael i ni gadw arfau a deunyddiau ar gyfer arfau allan o Gaza”, meddai Tony Blair, sy’n gennad i’r Dwyrain Canol ar ran y Cenhedloedd Unedig, yr Undeb Ewropeaidd, yr Unol Daleithiau a Rwsia.

“Dylai’r polisi yn Gaza ynysu’r eithafwyr ond bod o gymorth i’r bobol.”