Fe fydd Ffrainc yn cynyddu’r oed ymddeol o 60 i 62 yn 2018, mewn ymdrech i reoli gwariant cyhoeddus.
Mae gwneud hynny yn “rwymedigaeth foesol”, yn ôl y Llywodraeth, yn sgil dyledion y wlad a’r ffaith bod poblogaeth y wlad yn heneiddio.
Diffyg
Roedd diffyg ariannol y wlad yn 7.5% y llynedd, ac mae’r llywodraeth geidwadol wedi dweud y bydd hyn yn cael ei ffrwyno i lai na 3% o’r GDP erbyn 2013, yn unol â dymuniadau’r Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd y mesurau yn “deg a chyfrifol” meddai’r llywodraeth wedyn, yn effeithio ar weithwyr yn y sector cyhoeddus a phreifat yn yr un ffordd.
Ond mae Sosialwyr yr wrthblaid ac undebau llafur yn gwrthwynebu’r newid, ac roedd degau o filoedd o bobol wedi gorymdeithio ym Mharis ddoe i brotestio.