Fe fydd crynodeb o adolygiad am y ferch a gafodd ei herwgipio gan ei theulu ei hunan, Shannon Matthews, yn cael ei gyhoeddi heddiw. Fe fydd yn sôn am ran y gwasanaethau cymdeithasol yn y stori.

Fe ddiflannodd y ferch naw oed o’i chartref yn Dewsbury Moor, Gorllewin Swydd Efrog, ym mis Chwefror 2008.

Fe gafodd ei darganfod yn fyw 24 diwrnod yn ddiweddarach yn nhŷ Michael Donovan, ewythr ei llysdad, lai na hanner milltir i ffwrdd.


Carcharu mam

Y llynedd, fe gafodd ei mam, Karen Matthews, ei charcharu am wyth mlynedd am ei rhan yn yr herwgipiad.

Fe gafodd Michael Donovan hefyd ei garcharu am wyth mlynedd.

Ar ôl i’r ddau gael eu dedfrydu, fe gyhoeddodd Cyngor Kirklees eu bwriad i gynnal adolygiad achos difrifol i’r hyn oedd wedi digwydd.


Panorama

Roedd rhaglen Panorama y BBC wedi cael hawl i gymryd golwg ar archwiliad yr heddlu yn 2008.

Fe honnodd y rhaglen fod Shannon Matthews wedi bod ar restr gwarchod plant ar un adeg, ond bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi ei thynnu oddi arni yn ddiweddarach gan fod y teulu’n ymddangos i fod yn “setlo”.