Fe fydd adroddiad yn dweud heddiw bod angen gostwng lefel yr alcohol sy’n gyfreithiol wrth yrru car.

Fe fydd adroddiad gan ymgynghorydd y Llywodraeth, Syr Peter North, yn awgrymu y dylai gwledydd Prydain ddilyn y rhan fwyaf o wledydd cyfandir Ewrop a thorri’r lefel bron i’r hanner.

Fe fyddai hynny’n golygu gostwng yr uchafswm o 80mg o alcohol ym mhob 100ml o waed, i 50mg, fawr mwy nag un uned.

Mae Syr Peter hefyd yn debyg o ddadlau na ddylai gyrwyr gael y dewis o ofyn am brawf gwaed diweddarach.

Amheuon am agwedd y Llywodraeth

Dyw hi ddim yn glir eto pa mor awyddus fydd y Llywodraeth Glymblaid newydd i weithredu’r argymhellion.

Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan y Llywodraeth Lafur, ac roedd llefarydd y Ceidwadwyr ar drafnidiaeth, Theresa Villiers, wedi dweud ar y pryd nad oedd hi wedi ei hargyhoeddi bod modd cyfiawnhau newid y gyfraith.

Y disgwyl yw y bydd yr adroddiad hefyd yn argymell addasu’r gyfraith i ddelio gyda gyrwyr sy’n defnyddio cyffuriau.