Fe fydd methiant cwmni teledu Barcud a diswyddiadau yng nghwmni teledu Antena yn gorfodi gweithwyr i adael ardal Caernarfon a gogledd Cymru, meddai Aelod Seneddol.

Mae Hywel Williams, AS Caernarfon, wedi gosod nifer o gwestiynau i adrannau’r Llywodraeth yn Llundain yn holi am eu cefnogaeth i’r diwydiant darlledu yng Nghymru.

Mae hefyd wedi apelio ar i gwmnïau dalu’n brydlon i weithwyr ffrilans ar ôl iddi ddod yn amlwg fod rhai’n aros am ddegau o filoedd o bunnoedd gan grŵp Barcud Derwen.

Ddoe fe gyhoeddwyd bod un rhan o’r grŵp – cwmni adnoddau Barcud yng Nghaernarfon – yn cau ar unwaith gan golli 35 o swyddi.

Gobeithio gwerthu

Mae’r chwe chwmni arall sy’n rhan o’r grŵp yn nwylo’r gweinyddwyr Grant Thornton ac maen nhw’n gobeithio eu gwerthu o fewn y diwrnod a hanner nesa’.

Ond mae mwy o bryder am ddyfodol y diwydiant teledu yn y Gogledd, gyda chwmni Antena o Gaernarfon hefyd yn diswyddo 25. Mae eu prif raglen nhw, Uned 5, newydd ddod i ben.

Yn ôl Hywel Williams, roedd wedi bod yn trafod gydag Adran Drethi’r Llywodraeth ers tro yn gofyn iddyn nhw beidio â gweithredu’n rhy gyflym yn erbyn Barcud Derwen.