Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi ymosod unwaith eto ar gwmni olew BP mewn darllediad teledu o’r Tŷ Gwyn.
Wrth siarad o’r Oval Office, fe gyhuddodd BP o fod yn ddiofal, a dywedodd y byddai’r cwmni’n gorfod talu i glirio’r llygredd.
Ac yntau’n cyfarfod rhai o benaethiaid y cwmni’n ddiweddarach heddiw, fe rybuddiodd hefyd y bydd mwy o ddifrod cyn i’r llif olew gael ei atal.
Mae disgwyl y bydd Cadeirydd BP, Carl-Henric Svanberg, a swyddogion eraill yn cael amser caled gan yr Arlywydd, sy’n ceisio dod tros feirniadaeth gyhoeddus o’i waith.
Sicrhau
Roedd y darllediad oriau brig yn ymgais i sicrhau Americanwyr ei fod yn cymryd y trychineb yng Ngwlff Mecsico o ddifri – mae’r Arlywydd wedi cael ei gyhuddo o fod yn araf i ymateb i’r sefyllfa.
Oherwydd natur y llif olew – 5,000 o droedfeddi o dan wyneb y môr – mae’r Llywodraeth yn ddibynnol ar BP i geisio atal y llygredd ond mae swyddogion ffederal wedi eu cyhuddo o fod yn rhy gyfeillgar at y cwmnïau olew.
Daeth araith Barack Obama ar ôl i wyddonwyr awgrymu bod lefel yr olew sy’n gollwng fod yn dipyn uwch na’r disgwyl.
Llun: Barack Obama’n darlledu neithiwr