Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad roi arweiniad clir i geisio atal merched rhag cael eu masnachu o fewn y diwydiant rhyw yng Nghymru, meddai elusen.
Fe fydd gwefan newydd yn cael ei lansio heddiw i dynnu sylw at y broblem, sydd, meddai Amnest Rhyngwladol, yn cael ei hanwybyddu.
Y llynedd, fe awgrymodd adroddiad gan Gomisiynydd Plant Cymru fod plant cyn ieuenged â thair oed yn cael eu masnachu i mewn i Gymru o wledydd fel China, Nigeria a Bangladesh, a hynny er mwyn rhyw, cyffuriau neu waith.
Roedd hwnnw’n dweud bod 35 o blant yn dangos holl arwyddion clasurol y fasnach; roedd tystiolaeth gan gynghorau’n awgrymu bod 15 achos o fasnachu menywod y llynedd ond, yn ôl Amnest, mae hynny’n debyg o fod yn llawer llai na’r gwir.
Ar lefel Brydeinig, mae’r elusen yn mynnu nad yw rheolau newydd i geisio atal y fasnach yn addas.
Safonau’n amrywio
Mae Amnest yn dweud bod safonau yng Nghymru’n amrywio o heddlu i heddlu ac o gyngor lleol i gyngor lleol ac mae angen i’r Llywodraeth dynnu’r holl wasanaethau perthnasol at ei gilydd.
“Dim ond ychydig o’r gweithwyr yn y rheng flaen sydd wedi cael eu hyfforddi’n ddigonol,” meddai Cathy Owens, cyfarwyddwraig Amnest Rhyngwladol Cymru.
Fe fydd y wefan yn cael ei lansio gan yr AC Joyce Watson (yn y llun), sy’n cadeirio pwyllgor sawl plaid ar y pwnc o fewn y Cynulliad. Mae hi’n dweud fod peth gwaith da wedi ei wneud, ond fod angen gwneud mwy.