Fe fydd rhai o arweinwyr eglwysi Protestannaidd Gogledd Iwerddon yn mynd i’r Bogside yn Derry heddiw i ymuno gyda theuluoedd y bobol a laddwyd yn nghyflafan Bloody Sunday.

Y diwrnod ar ôl i Adroddiad Saville ddweud bod y fyddin ar fai am y lladd a phob un o’r 14 yn ddieuog o drais, fe fydd Esgob Londonderry a Raphoe a phenaethiaid yr eglwysi Presbyteraidd a Methodistaidd yn cymryd rhan mewn gwasanaeth coffa.

Fe fyddan nhw’n cyflwyno copi o gerflun ‘Dwylo tros y Bwlch’ i’r gymuned yn yr ardal lle digwyddodd y lladd ym mis Ionawr 1972.

“Mae hyn yn wirioneddol symbolaidd,” meddai Maer Derry, Colum Eastwood. “Mae’n dangos ble’r ydyn ni wedi cyrraedd a ble’r ’yn ni’n mynd.”

Croeso i’r adroddiad

Roedd yna groeso cyffredinol yn Derry i’r Adroddiad ac i ymddiheuriad cyhoeddus Prif Weinidog Prydain, David Cameron.

Un ar ôl y llall, fe ymddangosodd rhai o deuluoedd y lladdedigion ar risiau Neuadd y Ddinas i ddathlu dyfarniad yr Adroddiad bod eu perthnasau’n gwbl ddiniwed.

Er bod chwech o filwyr wedi ceisio amddiffyn yr uchel swyddog sydd wedi ei feio am eu hanfon i’r Bogside adeg y lladd, mae Pennaeth y Lluoedd Arfog, Syr David Richards, wedi cefnogi ymddiheuriad David Cameron.

Ystyried achosion llys

Dyw hi ddim yn glir eto a fydd unrhyw filwyr yn cael eu herlyn – roedd yna dystiolaeth fanwl am ran rhai ohonyn nhw yn y lladd ac fe gyfaddefodd un milwr yn ddienw ei fod wedi saethu pedwar o bobol yn farw.

Mae rhai o’r perthnasau yn dweud y bydden nhw’n hoffi gweld achosion llys ond, yn ôl eu cyfreithwyr, does yna ddim awydd mawr am hynny.

Fe fydd Prif Gwnstabl Gogledd Iwerddon a’r Gwasanaeth Erlyn yn ystyried y dystiolaeth i weld a oes lle i erlyn.

Llun: Ymateb John Kelly, brawd Michael Kelly a laddwyd yn 1972