Lai na phythefnos ers cael ei wneud yn Fardd Plant Cymru, fe gyhoeddwyd y bydd yr actor a’r canwr, Dewi Pws, yn cael ei urddo yn yr Orsedd.

Mae’n un o nifer o bobol adnabyddus o fyd adloniant a fydd yn cael eu gwneud yn dderwyddon yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nglynebwy.

Un arall yw arweinydd y côr Only Men Aloud, Tim Rhys-Evans, sy’n dod o Dredegar Newydd yn ardal yr eisteddfod ei hun.

Fe fydd y cyflwynydd teledu, Angharad Mair, yn ymuno â nhw, i gydnabod ei gwaith darlledu a’r ffaith ei bod yn rhedwraig marathon o safon ryngwladol.

Un gwleidydd

Un gwleidydd sy’n cael ei hanrhydeddu – wythnos yn ôl, fe ddaeth yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Jill Evans, yn Llywydd Benywaidd cynta’ Plaid Cymru ac mae wedi bod yn ASE yn 1999.

Mae yna gydnabyddiaeth i fyd diwylliant gwerin hefyd, gydag Eurwyn Wiliam a Mary Wiliam ill dau’n cael eu hurddo, y naill am ei waith ym maes adeiladau gwerin a datblygu Amgueddfa Sain Ffagan, a’r llall am ymchwil ym maes tafodiaith a’r traddodiad llafar.

Y pedwar arall a fydd yn dod yn dderwyddon yw’r hyfforddwyr llefaru, Ann Fychan o ardal Machynlleth ac Ian Lloyd Hughes o’r Bala, yr Esgob Edwin Regan o Wrecsam, a’r organydd ac arweinydd Côr Trelawnyd, Geraint Roberts.

Llun: Dewi Pws