Fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn ceisio’i gwneud hi’n haws ac yn gynt i gynghorau lleol gau ysgolion.

Fe fyddai hynny’n golygu gwneud mwy o’r penderfyniadau terfynol yn lleol a llai o achosion yn mynd gerbron gweinidogion.

Mae’r newid yn digwydd ar ôl helynt tros ad-drefnu ysgolion yng ngorllewin Caerdydd a gyda bron pob cyngor sir yn cynllunio i gael gwared ar lefydd gwag a chau ysgolion bach.

Ar hyn o bryd, mae yna ddadlau yng Ngheredigion tros gau ysgolion bach a’u huno mewn ysgol 3-19 – o dan y drefn newydd, mae’n debyg y byddai’r achosion hynny’n cael eu penderfynu’n derfynol gan y cyngor sir.

Yn ôl y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, mae angen trefn debyg i’r system gynllunio – dim ond mewn amgylchiadau arbennig y byddai gweinidogion yn ‘galw achos i mewn’ i’w ystyried.

Fe ddylai mwy o’r trafod ddigwydd yn lleol, meddai.

Newid y gyfraith

Mewn datganiad yn y Cynulliad, fe ddywedodd Leighton Andrews y byddai’n ceisio am y cyfle i newid y gyfraith er mwyn newid y rheolau.

Ar hyn o bryd, mae un gwrthwynebiad yn ddigon i fynd â’r achos gerbron y Gweinidog ac mae hynny, meddai, yn golygu bod y “ffrwyn yn dynnach” yng Nghymru nag yn Lloegr a’r Alban.

“Dw i’n ei chael hi’n anodd cyfiawnhau hyn,” meddai Leighton Andrews.

Fe ddywedodd bod gwrthwynebiad gan rywun o’r tu allan i ardal yn ddigon i’r achos fynd gerbron gweinidogion, er bod mwyafrif pobol leol o blaid cau.

“Does dim posib bod hyn yn ddefnydd da o adnoddau a hithau’n amlwg bod pawb sydd â diddordeb gwirioneddol yn y cynnig yn ei ffafrio,” meddai.

Cyflymu

Yn ogystal â newid y drefn apelio, fe fydd yn dechrau ar gynlluniau peilot i gyflymu’r broses yn gyffredinol

Mae’n amcangyfri’ y bydd modd torri tua chwe wythnos ar y broses.

Fe fydd proses ymgynghori’n digwydd gyda’r bwriad o sefydlu’r drefn gyflymach erbyn dechrau’r flwyddyn nesa’.

Llun: Leighton Andrews