Brasil 2 – 1 Gogledd Korea
Cipiodd Brasil fuddugoliaeth agoriadol ddisgwyliedig yn Grwp G ond Gogledd Korea oedd arwyr y diwrnod ar ôl eu dal nhw’n ôl drwy gydol yr hanner cyntaf cyn sgorio gôl yn hwyr yn yr ail hanner.
Roedd Gogledd Korea yn dîm trefnus a chrefftus ac ar dystiolaeth y gêm yma efallai mai nhw, ac nid y Traeth Ifori neu Bortiwgal, fydd yn esgyn o’r grŵp i rownd yr 16 olaf.
Roedd gan Frasil doreth o gyfleoedd yn yr hanner cyntaf ond doedd chwaraewyr Korea ddim yn dangos unrhyw o fod ofn tîm mwyaf llwyddiannus y byd ac roedden nhw’n barod i ymosod.
Mae tîm Brasil wedi eu beirniadu am fod yn ddiflas dan hyfforddiant Dunga ac roedden nhw’n araf a ddifflach am rannau helaeth o’r gêm.
Ond pan ddaeth y gôl ar ôl 55 munud roedd hi’n glasur, gyda Maicon yn taro’r bel o ongl dynn iawn rhwng y gôl-geidwad a’r postyn ac i mewn i gefn y rhwyd.
Sgoriodd Elano yn fuan wedyn ac roedd hi’n edrych fel pe bai’r gêm ar ben i Ogledd Korea.
Ond sgoriodd Ji Yun-nam ar ôl 88 munud gan selio noson fythgofiadwy i’r tîm.