Mae rheolwr newydd St Mirren, Danny Lennon, wedi datgelu y bydd chwaraewr canol cae Cymru, Andy Dorman yn gadael y clwb dros yr haf i chwarae yn Lloegr.
Fe enillodd Dorman ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Croatia fis diwethaf ac mae ei gytundeb gyda’r Albanwyr yn dod i ben yr haf yma.
“R’yn ni wedi cael gwybod gan asiant Andy Dorman ei fod yn debygol o groesi’r ffin a chwarae dros glwb newydd,” meddai Lennon.
“Mae Andy wedi cael cynnig cadarn gan glwb yn y Bencampwriaeth ac mae ‘na rhai eraill hefyd yn dangos diddordeb,” ychwanegodd rheolwr St Mirren.
Fe ymunodd Dorman gyda St Mirren ym mis Ionawr 2008 o New England Revolution yn yr Unol Daleithiau. Fe chwaraeodd 108 o gemau i’r clwb gan sgorio 24 gôl.
Roedd si bod Watford eisiau arwyddo’r Cymro ym mis Rhagfyr llynedd, ond does dim cadarnhad maen nhw sydd wedi gwneud y cynnig amdano eto.