Mae Japan yn ystyried tynnu allan o’r Comisiwn Morfila Rhyngwladol, os nad oes gobaith y bydd gwaharddiad hela masnachol byd eang yn cael ei leddfu.
Dyna rybudd Gweinidog Pysgota Japan heddiw, cyn y bydd y corff sy’n rheoleiddio hela morfilod yn cyfarfod yn Agadir, Morocco, wythnos nesaf.
Mae disgwyl i’r cyfarfod geisio cyfaddawdu rhwng y gwledydd sy’n anghytuno ar y mater.
Mi allai hyn arwain at ganiatáu hela morfilod am resymau masnachol dros gyfnod o amser.
Ond dyw hi ddim yn debygol y bydd gwledydd fel Awstralia a Seland Newydd yn cytuno i lacio’r rheolau, ac maen nhw wedi galw ar Japan i roi’r gorau i’w hela yn yr Antarctig.
Mae Japan yn honni taw gwneud ymchwil wyddonol y maen nhw yn yr Antarctic, ond mae gwrthwynebwyr yn dweud mai esgus yw hynna, a’u bod yn hela er mwyn gwerthu’r cig.
Cafodd y rheolau presennol eu gosod 25 o flynyddoedd yn ôl, ond mae gwledydd megis Japan, Norwy a Gwlad yr Ia, wedi cymryd mantais o wendidau yn y rheolau i barhau i hela.