Mae maswr Seland Newydd, Dan Carter wedi dweud ei fod yn disgwyl her gan Gymru pan fydd Seland Newydd yn eu hwynebu yn Dunedin dydd Sadwrn.

Ar ôl methu curo De Affrica yng Nghaerdydd ar ddechrau’r mis, mae Carter yn credu bod Cymru’n awyddus i brofi eu hunain yn erbyn y Crysau Duon.

“Mae Cymru yn gêm anodd bob tro ac fe fydden nhw’n dod yma gyda phwynt i’w brofi. Rwy’n siŵr y bydd yn her i ni,” meddai Carter.

Dywedodd nad ydi Seland Newydd yn chwarae ar eu gorau er gwaethaf eu buddugoliaeth 66-28 yn erbyn Iwerddon penwythnos diwethaf.

“R’yn ni wedi dechrau’r tymor yn araf yn y gorffennol ac roedden ni’n awyddus i newid hynny,” meddai Carter.

“R’yn ni wedi dechrau’n dda ond r’yn ni hefyd wedi gadael i Iwerddon sgorio pedwar cais- a dyw hynny ddim digon da. Roedden ni’n siomedig ac mae’n rhaid i ni wella.”

Newyddion y tîm

Mae hyfforddwr Seland Newydd, Graham Henry wedi gwneud un newid i’r tîm faeddodd Iwerddon.

Mae Victor Vito a ddaeth oddi ar y fainc i chwarae ei gêm gyntaf i’r Crysau Duon yn erbyn y Gwyddelod dydd Sadwrn diwethaf yn cymryd lle Jerome Kaino yn yr ochr dywyll.

Fe fydd Kaino yn colli’r gêm yn erbyn Cymru ar ôl dioddef anaf yn ystod y gêm yn New Plymouth.

Mae Graham Henry hefyd wedi gwneud tri newid ymysg yr eilyddion, gydag Adam Thomson, Tony Woodcock a Richard Kahui yn ennill eu lle ar y fainc.

Carfan Seland Newydd

15. Israel Dagg 14. Cory Jane 13. Conrad Smith 12. Benson Stanley 11. Josevata Rokocoko 10. Daniel Carter 9. Jimmy Cowan.

1. Ben Franks 2. Keven Mealamu 3. Owen Franks 4. Brad Thorn 5. Anthony Boric 6. Victor Vito 7. Richie McCaw 8. Kieran Read.

Eilyddion- 16. Aled de Malmanche 17. Tony Woodcock 18. Sam Whitelock 19. Adam Thomson 20. Piri Weepu 21. Aaron Cruden 22. Richard Kahui.