Dylai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ystyried annog gwell ymwybyddiaeth o henaint mewn ysgolion ar draws y wlad, meddai adroddiad heddiw.
Daw’r awgrym fel rhan o adroddiad y Sefydliad Materion Cymreig Adding Life to Years sy’n arolygu ymdriniaeth polisïau Cymru ynglyn â heneiddio.
Yn ôl yr adroddiad, mae poblogaeth sy’n prysur heneiddio yn cyflwyno “sialensau a chyfleoedd” i Gymru, ac mae angen bod yn “llawer mwy cadarnhaol am bobol hŷn a heneiddio.”
Y ffigyrau
Erbyn 2030, fe fydd 32% o’r boblogaeth dros 65 oed, o’i gymharu â 24% heddiw, ac fe fydd 5% dros 85 oed, o’i gymharu â dim ond 2% heddiw.
Hefyd, fe all un o bob pedwar o blant sy’n cael eu geni heddiw ddisgwyl i fyw yn hŷn na 100 oed.
“Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn ymchwilio’r cysyniad o allu pobol i ymdopi gydag anawsterau a goresgyn problemau sy’n ganolog i heneiddio’n llwyddiannus,” meddai John Osmond, awdur yr adroddiad.
Cyngor
Ymhlith awgrymiadau’r adroddiad:
• Darparu cyngor amserol ar gyfer pobl hŷn;
• Dod o hyd i ffyrdd i hyrwyddo agweddau mwy cadarnhaol tuag at heneiddio;
• Annog pobol i feddwl am sut y gall datblygiadau tai ymgorffori nodweddion dylunio fwy addas ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio;
• Annog trafodaeth genedlaethol ar broblemau talu am gartrefi gofal i’r rhai sydd eu hangen;
• Ehangu gŵyl flynyddol y gwanwyn ym mis Mai sy’n dathlu creadigrwydd pobol hŷn.