Mae hyfforddwr tim rygbi Cymru, Warren Gatland, yn credu y bydd ei dîm yn methu yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn – os na fydd ganddyn nhw ddigon o ffydd mynd i mewn i’r gêm ddydd Sadwrn heb ffydd yn eu gallu.
Mae Gatland wedi pwysleisio’r angen am hunan hyder.
“Doedden ni ddim wedi sylweddoli tan ar ôl gadael Seland Newydd, pa mor anodd oedd hi i dîm ddod yma a sicrhau canlyniad,” meddai Gatland.
“Yr unig wlad sydd wedi gallu gwneud hynny, oedd pan ddaeth Ffrainc yma’n ddiweddar gyda hyder.
“Mae’n rhaid i chi ddod yma a chredu yn eich hunain- mae angen yr hyder ei ch bod yn gallu dod yma a pherfformio,” ychwanegodd hyfforddwr Cymru.
Gwers gan Ffrainc
Mae Warren Gatland yn credu y gallai Cymru ddysgu gwers o’r hyn gyflawnodd Ffrainc y llynedd pan enillon nhw 27-20 yn erbyn Seland Newydd yn y prawf cynta’, cyn colli’r ail 14-10.
“Rwy’n dal i edrych ar yr hyn gyflawnodd Ffrainc yn Carisbrook llynedd. Fe ddaethon nhw yma a phawb yn dweud nad oedd siawns gyda nhw.
“Ond fe enillon nhw’r prawf cyntaf, ac fe ddylen nhw fod wedi ennill yr ail hefyd.
“Mae’n rhaid i ni edrych ar achlysuron fel’na a gobeithio y bydd yr un peth yn digwydd i ni.”