Mae hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Phil Davies wedi nodi ei siom ar ôl i’w dîm golli 43-10 i Seland Newydd ym Mhencampwriaeth y Byd yn yr Ariannin.

Roedd Cymru eisoes wedi curo Samoa a Fiji cyn iddyn nhw wynebu’r Crysau Duon yng ngêm ola’r grŵp.

Ond roedd Seland Newydd yn gam rhy bell i dîm ifanc Phil Davies, gyda’r bwlch yn glir.

Siom

“Rwy’ i ychydig yn siomedig, i fod yn onest,” meddai Phil Davies. “Roedd y chwaraewyr wedi gweithio’n galed, fel maen nhw wastad yn gwneud, ond doedden ni ddim digon cywir o dan bwysau.

“Fe ymdrechodd y chwaraewyr yn galed ac, am gyfnodau, roedd pethau’n bositif pan roedden nhw’n cadw meddiant a phan sgoriwyd y cais. Ond, yn y pen draw, doedden ni ddim digon da.

“Fe gymerodd Seland Newydd eu cyfleoedd, gan sgorio llawer mwy o bwyntiau. Mae pawb yn dweud eu bod nhw’n glinigol, ac mae hynny’n wir.”

Ymlaen

Fe fydd Seland Newydd yn mynd ymlaen i rownd gyn-derfynol, tra bodd yn rhaid i Gymru aros i holl gemau’r grwpiau gael eu cwblhau cyn darganfod pwy maen nhw’n eu wynebu yn y gemau ail-gyfle.