Mae ofnau bod dros 30 o bobol wedi boddi ar ôl i gwch droi drosodd ar afon Ganges yng ngogledd India.

Yn ôl adroddiadau, roedd rhwng 60 a 70 o bobol yn teithio ar y cwch, a ddylai fod yn cludo 30 o bobol yn unig.

Roedd y cwch wedi troi yn nghanol yr afon, a chredir fod 25 o bobol wedi llwyddo i gyrraedd y lan. Er hynny, mae 12 o gyrff marw wedi cael eu tynnu allan o’r dwr hyd yn hyn.

Digwyddodd y ddamwain mewn rhan o’r afon sy’n teithio drwy ddinas Ballia yn nhalaith Uttar Pradesh.