Cymru fydd un o 16 gwlad mewn cystadleuaeth rygbi saith bob ochr yng Ngêmau’r Gymanwlad yn yr India ym mis Hydref.
Bydd Cymru, sy’n bencampwyr y byd, yn cystadlu yn erbyn timau fel Samoa, enillwyr cyfres saith bob ochr y byd eleni, a phencampwyr y gemau cynt, Seland Newydd.
Fe gipiodd Cymru Gwpan y Byd y llynedd ar ôl curo’r Ariannin yn y rownd derfynol, ac fe
fydd tîm Paul John yn awyddus i sicrhau llwyddiant pellach.
Ond fe fydd yn dasg anodd i Gymru – yn ogystal â Samoa a’r Crysau Duon, fe fydd timau fel De Affrica, Awstralia, Lloegr a’r Alban hefyd yn ceisio cipio medal yn Delhi. Fe fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar 11 a 12 Hydref.
Cafodd rygbi saith bob ochr ei dewis yn gamp Olympaidd y llynedd, a’r gystadleuaeth yng Ngêmau’r Gymanwlad fydd y cyfle cynta’ mewn pencampwriaeth ryngwladol.
Bydd rygbi saith bob ochr yn cael ei gynnwys yn y Gêmau Olympaidd am y tro cyntaf ym Mrasil yn 2016.
Timau rygbi saith bob ochr Gemau’r Gymanwlad 2010
• Cymru
• Seland Newydd
• Samoa
• Awstralia
• De Affrica
• Lloegr
• Yr Alban
• Canada
• Kenya
• Namibia
• Uganda
• Sri Lanka
• Papua New Guinea
• Tonga
• Guyana
• India