Fydd blaenasgellwr Cymru a’r Scarlets, Dafydd Jones, ddim yn ôl erbyn dechrau’r tymor newydd ar ôl iddo orfod cael ail lawdriniaeth ar anaf i’w ysgwydd.

Mae’n ymddangos nad oedd y cymal yn ei ysgwydd wedi gwella’n llawn ar ôl y driniaeth gyntaf.

Bydd Jones allan o’r gêm am bedwar mis arall, sy’n golygu y gallai fod yn ôl yn chwarae ym mis Hydref ar gyfer gemau agoriadol Cwpan Heineken.

“Yn amlwg mae’n rhwystredig fy mod i mas am gyfnod hirach, ond doedd dim opsiwn arall,” meddai Dafydd Jones.

“Roedd rhaid cael llawdriniaeth i sicrhau bod yr ysgwydd yn sefydlog i fy ngalluogi i ddychwelyd i ffitrwydd llawn yn yr hir dymor.

“Mae’r llawfeddyg wedi dweud bod popeth wedi mynd yn iawn, ac rwy’n teimlo’n dda.”

Yn ôl erbyn Cwpan y Byd?

Mae Dafydd Jones wedi dweud mai’r nod yw dychwelyd i berfformio’n dda i’r Scarlets yn barod ar gyfer Cwpan y Byd 2011.

“Mae gyda fi ddigon o ysgogiad i ddychwelyd cyn gynted â phosib, gyda Chwpan y Byd yn fuan, ac rwy’n edrych ‘mlaen i gael chwarae gyda bois y Scarlets unwaith eto.”