Mae un o chwaraewyr y Crusaders wedi gwrthod yr honiad mai anlwc yn erbyn y Catalan Dragons y mis diwethaf sydd wedi arwain at gyfnod gwael y clwb.
Fe gollodd tîm Brian Noble o 34-35 i’r Catalaniaid yn y Cwpan Her ar ôl cic adlam hwyr gan Thomas Bosc.
Roedd nifer yn credu dylai’r Croesgadwyr fod wedi ennill y gêm ond mae Peter Lupton yn mynnu na fydd y golled anlwcus yn atal y clwb Cymreig rhag ail-danio’u tymor.
“Dw i ddim yn credu bod gêm y Catalans yn effeithio arnon ni,” meddai Lupton. “Yn amlwg roedd yn gêm agos ac roedd yn siom colli yn y fath ffordd.
“Ond d’y ni ddim yn dueddol o hel meddyliau am berfformiadau, ac fel arfer r’yn ni’n cymryd un gêm ar y tro.”
‘Angen taro’n ôl’
Er hynny, roedd Peter Lupton yn cyfaddef bod y Crusaders wedi llithro ar ôl colli tair gêm yn olynol a bod angen taro’n ôl cyn gynted â phosib.
“R’yn ni’n ymdrechu’n galed a’r cyfan sydd ei angen yw un fuddugoliaeth- mae hyder yn ffactor mawr i’r tîm,” meddai Lupton.
Bydd cyfle gyda’r Crusaders i geisio ail-danio’u tymor gyda buddugoliaeth yn erbyn y Bradford Bulls ddydd Sul.