Mae cynlluniau i adfywio’r Cwpan Premier wedi methu ar ôl i Gaerdydd eu hanwybyddu.
Yn ôl papur yr Evening Post, roedd Abertawe wedi cefnogi’r syniad i ailddechrau’r gystadleuaeth a ddaeth i ben ddwy flynedd yn ôl ar ôl i nawdd y BBC ddod i ben.
Roedd hi’n cynnwys timau sy’n chwarae yn Lloegr yn ogystal â rhai o Uwch Gynghrair Cymru.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Abertawe y byddai’r clwb am fwy o fanylion ynglŷn â fformat y cwpan cyn cadarnhau’n bendant eu bod nhw am gymryd rhan.
Ond mae’n ymddangos nad oedd yr Adar Glas wedi cynnig unrhyw ymateb i’r cynnig i gymryd rhan yn y gystadleuaeth unwaith eto.
Y gobaith oedd y byddai Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a Chasnewydd yn cystadlu yn erbyn clybiau’r Uwch Gynghrair.
Roedd yna broblem hefyd oherwydd patrwm newydd yr Uwch Gynghrair – roedd peryg na fyddai digon o amser ar ôl ar gyfer y Cwpan Premier.