Y flwyddyn nesa’ y bydd refferendwm ar gyfer datganoli mwy o rym i’r Cynulliad Cenedlaethol, meddai Prif Weinidog Prydain heddiw.

Fe gadarnhaodd David Cameron ei fod yn erbyn cynnal y bleidlais yn yr hydref – er gwaetha’ dymuniad Llywodraeth y Cynulliad a’r Ceidwadwyr yng Nghymru.

Pobol Cymru ddylai “benderfynu eu dyfodol” meddai’r Prif Weinidog, wrth ateb cwestiwn gan Aelod Seneddol Llafur Ynys Môn, Albert Owen, yn Nhŷ’r Cyffredin.

Roedd Albert Owen wedi galw am gynnal refferendwm yn yr hydref, ac wedi gofyn a oedd David Cameron am weld mwy o rym yn mynd i’r Cynulliad.

‘Parch’

“Rydw i am agenda o barch diffuant rhwng Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau [datganoledig] yna”, meddai’r Prif Weinidog.

“Mae hynna’n golygu y bydd yna refferendwm ar gyfer grymoedd ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol.

“Rydyn ni’n credu y dylai’r refferendwm yna ddigwydd y flwyddyn nesaf.”

Os oedd Aelodau Seneddol Llafur am weld refferendwm cynharach meddai, yna fe ddylai Ysgrifennydd diwetha’ Cymru, Peter Hain, fod wedi “ei wthio drwodd” yn gynt.

Fe wrthododd ddweud a oedd o blaid rhoi rhagor o rym i Gymru.