Mae ymgeisydd arall wedi sicrhau diogon o enwebiadau i ymuno â’r ras swyddogol i olynu Gordon Brown fel arweinydd y Blaid Lafur.

Sicrhaodd y cyn Ysgrifennydd Iechyd Andy Burnham 33 o bleidleisiau gan ei gyd Aelodau Seneddol, prin ddwy awr cyn i’r enwebu ddod i ben am 12:30pm.

Mae hynny’n cyfateb i bumed rhan o’r Blaid Lafur yn y senedd a dyna oedd y trothwy ar gyfer ymuno yn y ras go iawn.

Mae amheuaeth o hyd a fydd ymgeisydd o’r adain chwith, er bod John McDonnell wedi tynnu’n ôl y bore yma i roi cyfle i Diane Abbott grynhoi’r enwebiadau angenrheidiol.

Pan wnaeth hynny, roedd ganddo 16 o bleidleisiau a Diane Abbott 11 – gan olygu bod eu cyfanswm yn brin ac y byddai’n rhaid denu ychydig rhagor o enwebiadau munud ola’.

Mae Andy Burnham ymuno â’r ymgeiswyr eraill – David Miliband, ei frawd Ed Miliband ac Ed Balls – ar gyfer yr ornest sy’n parhau am dri mis.