Mae achos llys wedi dechrau ym Mharis yn erbyn Llydäwr sydd wedi’i gyhuddo o un o’r enghreifftiau mwyaf o dwyll erioed yn erbyn banc.

Mae Jerome Kerviel, 33, wedi cael ei gyhuddo o gamblo biliynau ar fasnachu cudd gan greu colledion o tua €5 biliwn i’r cwmni bancio Société Générale.

Ond mae’r cyn-fasnachwr, sydd erbyn hyn yn gweithio i gwmni cyfrifiaduron, yn dweud bod y banc wedi pigo arno ef, er bod masnachu peryglus yn gyffredin ymysg y gweithwyr.

Ychwanegodd Jerome Kerviel bod staff uwch ei ben ef yn y banc yn ymwybodol o’r hyn yr oedd yn ei wneud, ac nad oedden nhw wedi dweud dim tra oedd yn gwneud arian iddyn nhw.

Holi

Fe gafodd sawl un o benaethiaid Kerviel eu holi yn ystod ymchwiliad i’r digwyddiadau ond does yr un ohonyn nhw wedi’i gyhuddo. Er hynny, fe ymddiswyddodd rhai yn dilyn y sgandal, gan gynnwys y Cadeirydd, Daniel Bouton.

Mae Jerome Kerviel wedi dweud wrth archwilwyr iddo golli synnwyr o werth arian a’i fod yn byw mewn byd afreal. Mae’r banc wedi dweud nad yw’n ymddangos iddo elwa’n bersonol mewn unrhyw ffordd o’r masnachu mentrus.

Cefndir

Roedd Jerome Kerviel wedi ei fagu yn nhref fechan Pont-l-Abbé yn Llydaw yn 1977 yn fab i of a gweithwraig trin gwallt.

Yn y Brifysgol yn Naoned (Nantes), doedd e ddim wedi gwneud unrhyw argraff neilltuol ar ei ddarlithwyr.

Llun: Carchar La Santé lle cafodd Kerviel ei gadw (Michael Berch CCA3.0)