Mae o leiaf 20 o bobl wedi marw a bywydau 15 arall mewn peryg ar ôl i fws mini daro i mewn i goeden a chwympo i ffos yn nwyrain India heddiw.
Yn ôl Binod Kumar sy’n swyddog heddlu lleol, fe ddigwyddodd y ddamwain yn ardal Gobindpur yn nhalaith Jharkhand tua 215 o filltiroedd i’r de-ddwyrain o Patna.
Yn ôl y swyddog heddlu, mae ymchwiliadau’n dangos ei bod yn bosibl fod gyrrwr y bws mini wedi mynd i gysgu wrth y llyw.
Roedd y 40 a oedd yn teithio yn y bws preifat yn rhan o barti priodas, ond roedd y briodferch a’r priodfab yn teithio ar wahân, meddai’r heddlu.
Fe ddioddefodd y teithwyr eraill fân anafiadau. Mae cyfres o ddamweiniau bws difrifol wedi digwydd yn India yn ystod yr wythnosau diwetha’.
Llun: Un o’r damweiniau bws diweddar yn India (AP Photo)