Fe fydd disgybl newydd mewn ysgol gynradd Gymraeg – model anferth o ddeinosor.

Ysgol Gynradd Santes Tudful ym Merthyr a lwyddodd i ennill yr hawl i gael Brontosaurus sbâr o gasgliad canolfan Dan-yr-Ogof yng Nghwm Tawe.

Fe gafodd y newyddion ei gyhoeddi’n fyw ar raglen BBC Radio 2 Chris Evans bore heddiw.

Fe lwyddodd yr ysgol i guro mwy na 3,000 o ymgeiswyr eraill eraill ar ôl egluro sut y byddai disgyblion yn cael budd o gwmni ‘Bronty’.

Fe wnaethon nhw hefyd egluro sut y bydden nhw’n ei gludo i’w gartref newydd gyda help gan gwmni lleol, Miller Argent.

Ymweld

Fe fydd criw o blant ysgol yn ymweld â Dan yr Ogof heddiw i weld y dinosor cyn ei fod yn cyrraedd ymhen tuag wythnos.

Yn ôl Dewi Hughes, Prifathro’r ysgol maen nhw’n falch iawn eu bod wedi llwyddo yn eu cais i roi cartref i’r deinosor.

“Mae gennym ni gynllun darllen ‘Dewi’r Dinosor’,” meddai. “A gan fod y dinosor hwn hefyd yn Gymraeg – mae’n siŵr o ffitio i mewn gyda staff a phlant a dod yn ffrind i bawb.”

“Rydan ni’n gyffrous am ymweld â’r ganolfan heddiw ac fe gawn ni gynllunio lleoliad ar ei gyfer pan mae’n cyrraedd mewn tuag wythnos,” meddai.

‘Cyfle’

“Rydan ni’n falch ofnadwy fod un o ysgolion Merthyr oedd wedi gofyn i ni am gymorth wedi ennill y cyfle hwn…Rydan ni’n gobeithio y bydd yn hapus yn ei gartref newydd,” meddai Kylie Jones, o Miller Argent sy’n helpu gyda’r cludo.

“Oherwydd ein bod ni’n ychwanegu darn arall i’n casgliad, roedden ni’n fyr o le ac angen ffeindio cartref fyddai’n goflau am brontosaurus,” meddai Ashford Price, Cadeirydd y Ganolfan ogofau a dinosoriaid yn ne Cymru.

“Fe wnaethon ni dderbyn dros 3,000 o ymholiadau gan gartrefi, canolfannau gerddi ac ysgolion. Fe wnaethon ni ddewis Ysgol Santes Tudful oherwydd bod digon o le yno yn ogystal â chynlluniau am sut y bydd y dinosor yn cael ei ddefnyddio. Rydan ni’n falch iawn y bydd yn aros yng Nghymru,” meddai Ashford Price.

Ond efallai y bydd rhaid i’r plant ddysgu enw newydd – mae’n debyg bod arbenigwyr yn dweud bellach nad yw’r Brontosaurus yn bod ac mai Apatosaurus yw’r enw iawn.

Llun: Syniad artist o’r Brontosaurus