Mae’r golffiwr o Ben-y-bont, Rhys Davies wedi cyrraedd 50 uchaf rhestr detholion y byd am y tro cyntaf yn ei yrfa.

Fe orffennodd y Cymro yn ail ym Mhencampwriaeth Agored Cymru dros y penwythnos ac ennill £200,000.

Roedd Davies hefyd yn wedi gorffen yn ail yng nghystadleuaeth Meistri Madrid yn Sbaen yr wythnos gynt ac mae llawer yn teimlo fod ganddo gyfle da i ennill lle yn nhîm Ewrop r gyfer y Cwpan Ryder.

Mae ei chwarae cyson wedi helpu iddo godi i safle 45 ar y rhestr y detholion ac mae sawl chwaraewr arall wedi dweud mai ef yw pytiwr gorau’r byd ar hyn o bryd.

Fe dorrodd Davies record y cwrs yn y Celtic Manor gyda rownd o 62 dros y penwythnos ac fe fydd hynny’n siŵr o fod wedi denu sylw capten Ewrop, Colin Montgomerie.

Bydd Rhys Davies yn gobeithio dangos ei ddoniau unwaith eto pan fydd yn cystadlu yn Pebble Beach, California ym Mhencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau ymhen wythnos.