Mae dwy ferch yn eu harddegau wedi cael eu cyhuddo o drywanu dyn 80 oed i farwolaeth wrth iddyn nhw ddwyn €10 oddi wrtho.
Yn ôl heddlu yng Ngwlad Groeg, roedd y marched sy’n 15 ac 16 oed, wedi trywanu’r dyn dro ar ôl tro yn ei frest a’i stumog ar ôl iddo alw am gymorth wedi iddyn nhw ei fygwth â chyllell.
Roedd y dyn wedi gadael y ddwy ferch i mewn i’w dŷ yn Serres yng ngogledd Groeg, lle’r oedd yn byw ar ben ei hunan.
Yn ôl yr heddlu, roedd y merched wedi cyfadde’ i’r weithred ar ôl cael eu harestio.
Maen nhw’n wynebu cyhuddiadau o lofruddiaeth.
Llun: Serres (Marsyas – GNU)