Mae sylfaenydd Dolen Cymru Lesotho wedi cyhuddo gwledydd mawr o droi cefn ar y wlad fechan yn neheudir Affrica.

Mae Carl Clowes yn dweud hefyd y bydd gwrthwynebiad cryf i alwadau am uno’r wlad gyda De Affrica, er ei bod yn wynebu problemau economaidd a chymdeithasol anferth.

Mae galwadau am undeb o’r fath wedi cael eu “gwyntyllu” nifer o weithiau yn y gorffennol, meddai’r Cymro Carl Clowes, sy’n Is-gennad i’r wlad sydd fel ynys yng nghanol De Affrica.

Ddoe, roedd papur newydd yr Observer yn adrodd am ymgyrch yn y wlad sydd wedi casglu deiseb fawr yn galw am yr uno.

“Annibyniaeth ysbryd y bobol” oedd wedi sicrhau annibyniaeth oddi wrth Brydain, yn ôl Carl Clowes, a “dwi’n sicr y bydd gwrthwynebiad”.

Ynys

Roedd Carl Clowes yn honni bod y wlad a oedd ar un adeg yn “ynys yn erbyn apartheid” yn cael ei hanwybyddu bellach.

Roedd o leiaf 35 llysgenhadaeth yno pan oedd apartheid yn Ne Affrica, meddai, ond dim ond tua chwech sydd ar ôl erbyn hyn.

Mae gwledydd Prydain, er enghraifft, wedi gadael ac felly mae’n rhaid i bobol o Lesotho fynd i’r llysgenhadaeth yn Pretoria am gymorth. “Brad yw hyn,” meddai Carl Clowes.

Y meddyg oedd un o’r rhai a ysbrydolodd Dolen Cymru Lesotho, sefydliad sy’n cynorthwyo Lesotho i ddatblygu mewn meysydd megis iechyd ac addysg ac yn creu cysylltiadau rhwng y ddwy wlad.

Trafferthion enbyd

Y sbardun i’r ymgyrchwyr yw’r trafferthion oherwydd AIDS, gyda 400,000 o blant yn amddifad oherwydd y cyflwr a bron cymaint yn marw bob blwyddyn ag sy’n cael eu geni.

Mae gwendid yr economi, cyflogau isel a phrinder dŵr hefyd yn achosi trafferthion, yn ogystal â chyfyngiadau ar allu’r bobol i deithio i Dde Affrica i weithio.

Mae hi wedi tynhau diogelwch ei ffiniau cyn Pencampwriaeth Pêl-droed Cwpan y Byd, drwy atal pobol sydd â dogfennau teithio dros dro. Roedd llawer o weithwyr o Lesotho yn dibynnu ar drwyddedi o’r fath gan nad oes gwasanaeth pasbort wedi bod ar gael ers blynyddoedd.

Lesotho

Lesotho yw’r wlad uchaf yn y byd – does dim rhan o honni’n is na 1,400 metr uwchben lefel y môr – ac mae wedi cael ei hamgylchynu’n llwyr gan Dde Affrica.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud ei bod yn un o’r gwledydd lleiaf datblygedig yn y byd, ac mae dros draean o’i phoblogaeth yn dioddef o HIV/AIDS, â disgwyliad oes yn llai na’ 40 mlynedd ar gyfartaledd.

Llun: Mynyddoedd Lesotho (Eckhard Pecher CC2.5)