Mae BP wedi llwyddo i osod twmffat neu dwndish tros y bibell sy’n gollwng olew yng Ngwlff Mecsico, ac mae’r llygredd yn dechrau cael ei sugno i long ar yr wyneb.

Ond yn ôl y rhagolygon cynnar o’r Unol Daleithiau, dim ond un rhan o ugain o’r holl olew sy’n cael ei atal rhag llifo i’r môr.

Mae BP wedi honni y gallai hynny gynyddu ac y bydd rhaid aros am gyfnod cyn cael gwybodaeth bendant ynglŷn â pha mor llwyddiannus yw’r ymgais.

Roedd yr Arlywydd Barack Obama wedi canslo ymweliad tramor er mwyn mynd i ardal Lousiana am y trydydd tro. Fe ddywedodd ei fod yn “gandryll” am yr hyn oedd yn digwydd.

Bellach, mae’n edrych yn debygol na fydd y llif yn dod i ben yn llwyr nes y bydd dwy ffynnon newydd yn cael eu tyllu – erbyn tua mis Awst.

Mae amcangyfrif fod hyd at 45 miliwn o alwyni o olew eisoes wedi llifo mewn i’r môr ers y ffrwydrad ar lwyfan Deepwater Horizon ar 20 Ebrill, pan gafodd 11 o bobol eu lladd.

Llun: Olew ar y mor (Gwifren PA)