Ar ôl tridiau o drafod, mae arweinwyr gwleidyddol a phenaethiaid llwythau yn Afghanistan wedi cytuno i ddechrau trafodaethau heddwch gyda gwrthryfelwyr y Taliban.

Daeth y penderfyniad ar ddiwrnod olaf y ‘jirga’ – cynhadledd genedlaethol – yn y brifddinas, Kabul.

Penderfynwyd cefnogi cynllun yr Arlywydd Hamid Karzai i gynnig amnest, arian a swyddi i aelodau o rengoedd isaf y Taliban, ar yr amod eu bod yn rhoi’r gorau i ymladd.

Mae’r arlywydd hefyd am gynnig lloches i rai arweinwyr mewn gwlad Islamaidd arall, a thynnu eu henwau oddi ar ‘restr gwahardd’ y Cenhedloedd Unedig a’r Unol Daleithiau.

Ymhlith cynigion dadleuol eraill sy’n cael eu hystyried, mae rhyddhau carcharorion, cau carchardai a sicrhau amserlen i filwyr tramor adael.

Annhebygol

Mae disgwyl i arweinwyr y gwrthryfelwyr wrthod y cynnig yn swyddogol, gan eu bod eisoes wedi dweud na fyddan nhw’n trafod nes y bydd lluoedd yr Unol Daleithiau a Nato wedi gadael.

Mae’r Taliban eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn diystyru’r gynhadledd, ac roedden nhw wedi saethu taflegrau at safle’r jirga ddydd Mercher.

Er hynny, mae Hamid Karzai wedi galw arnyn nhw i gymryd mantais ar y cynnig i sicrhau heddwch parhaol, er mwyn ailadeiladu’r wlad.

Yn ôl gwasanaeth newyddion Al Jazeera, ceisiodd dirprwy gadeirydd y jirga, Qiamuddin Kashaf, ennill eu hyder trwy ddweud na fyddai tramorwyr yn rhan o weithredu’r cynllun.

Yn y cyfamser, mae lluoedd Nato ac Afghanistan wrthi’n paratoi ymosodiad mawr ar y Taliban yn nhalaith ddeheuol Kandahar.

Llun: Hamid Karzai (Gwifren PA)